Recriwtio Aelodau’r Bwrdd
Barcud
Aelod o’r Bwrdd ac Aelod Cyfelothedig
Ymgeisiwch am swydd a lawrlwythwch ddogfen dylestwyddau a chyfrifoldebau a manyleb bersonol
Ffurflen Datganiad

Aelod Bwrdd
£5k y flwyddyn, gyda treuliau

Aelod Bwrdd Cyfelothedig
£5k y flwyddyn, gyda treuliau

Cadeirdydd y Bwrdd
Di-dâl, treuliau yn daliadwy

Aelodau’r Bwrdd
Di-dâl, treuliau yn daliadwy
Gwybodaeth am Barcud
Mae tenantiaid wrth graidd pob penderfyniad a wnawn ac mae gennym hanes hir a llwyddiannus o gyfranogiad gan denantiaid.
Mae ein Amcanion Strategol yn unol â hyn wrth inni ymdrechu i ddarparu cartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni ar gyfer trigolion canolbarth a gorllewin Cymru. Mae cefnogi tenantiaid yn ystod yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni yn flaenoriaeth, ac rydym yn ymroddedig i weithio gyda grwpiau tenantiaid i ganolbwyntio ar amcanion strategol Barcud. Mae’r Gymdeithas yn ymdrechu i gyrraedd y safonau rheoleiddiol uchaf posib i ategu ein gweledigaeth.
Mae gan ein rhanbarth ni un o’r poblogaethau mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ac mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn inni. Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi cyfleoedd i ddysgu ac annog ein cydweithwyr i ddefnyddio iaith eu dewis yn hyderus ym mhob agwedd ar ein bywyd gwaith beunyddiol.
Gyda tri is-gwmni llwyddiannus a phresenoldeb yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a thu hwnt, mae Barcud yn cynnig gweithle deinamig ble mae gweledigaeth, arweinyddiaeth ac arloesi yn dod ynghŷd er mwyn llunio dyfodol y sector dai. Fel Grŵp – Y Gymdeithas Tai a tri is-gwmni – rydym yn dîm o dros 300 o bobl.
Gellir darllen ein adroddiad blynyddol mwyaf diweddar yma
Gellir darllen adroddiadau blynyddol blaenorol ac asesiadau rheoleiddiol yma
Cewch fwy o wybodaeth am Barcud yma
Gwybodaeth am Gofal & Thrwsio ym Mhowys
Yn Gofal a Thrwsio ym Mhowys, rydym yn dîm bach ymroddgar o staff sy’n credu’n angerddol yn yr hyn yr ydym yn ei wneud i helpu pobl hŷn.
Rydym i gyd wedi ymrwymo i wneud yn siŵr fod ein cleientiaid yn cael eu cadw’n ddiogel, yn gynnes ac yn gysurus yn eu cartrefi eu hunain. Mae ein ardal yn enfawr, gan fod Powys yn ymestyn dros chwarter holl ardal daearyddol Cymru ac yn cynnwys rhai o ardaloedd gwledig mwyaf anghysbell y wlad. Golyga hynny y gall pobl fregus yn ein cymunedau ei chael hi’n anodd cyrraedd gwasanaethau. Mae ein gwasanaeth cartref unigryw yn mynd â chymorth yr holl ffordd at ddrws tŷ’r unigolyn.
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn sefydliad annibynnol dielw gyda statws elusennol. Rydym wedi’n cofrestru gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol fel Cymdeithas Budd Cymunedol o dan Ddeddf Cymdeithasau Lles Cydweithredol a Chymunedol 2014.
Cawsom ein sefydlu yn 1988 i wasanaethu tair sir wreiddiol Powys (Brycheiniog, Maesyfed a Threfaldwyn) a’n huno i greu un sefydliad yn 2003. Rydym yn gweithio o un swyddfa yn y Drenewydd.
Rydym yn is-gwmni i Barcud ac mae gennym fwrdd rheoli i oruchwylio gwaith yr Asiantaeth. Rydym yn aelod cyswllt o Care & Repair Cymru.
Mae Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Care & Repair Cymru, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Barcud.
Gellir gweld y tîm yma
Gellir gweld ein strwythur llywodraethu yma
Gellir darllen mwy am Gofal & Thrwsio ym Mhowys yma

Y Tîm Rheoli

Adroddiad Blynyddol
Mae ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf, sy’n rhoi trosolwg o’n cyflawniadau, a gweithgareddau allweddol i’w gweld yma.

Archive documents
Previous Annual Reports and Regulatory assessments can be found.
Gwneud cais am swydd
Cwblhewch y ffurflen gais a datganiad yn gywir, gan roi’r holl fanylion gofynnol.
Amcanion a Gwerthoedd
Gellir gweld rhagor o fanylion am ein hamcanion strategol yma

Parch

Balchder
Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith ac yn falch o’i wneud yn dda.

Parch

Gofal

Balchder
Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith ac yn falch o’i wneud yn dda.