Rhagair gan Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol

Annwyl Ymgeisydd,
Rwyf wrth fy modd eich bod yn ystyried ymuno â Barcud ar adeg mor gyffrous a thyngedfennol yn ein taith. Fel cymdeithas dai sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n gweithredu ledled Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, rydym yn berchen ac yn rheoli dros 4,000 o gartrefi. Mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi ein cymunedau gydag amrywiaeth o wasanaethau hanfodol a grymuso dros 300 o gydweithwyr ymroddedig i gyflawni rhagoriaeth bob dydd.
Gyda dros 20 mlynedd mewn cyllid sector cyhoeddus a 15 mlynedd gyda Barcud a Tai Ceredigion yn flaenorol, rwy’n cael fy ysbrydoli gan yr angerdd, yr ymrwymiad a’r uchelgais sy’n diffinio’r sefydliad hwn. Mae ein gweledigaeth yn glir: creu bywydau gwell a chymunedau cryfach. Mae’r uchelgais hon yn gyrru popeth a wnawn, o ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i feithrin cymunedau ffyniannus. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar arloesedd, cydweithio a chynaliadwyedd, gan sicrhau ein bod nid yn unig yn cwrdd â heriau heddiw ond hefyd yn adeiladu dyfodol sy’n grymuso’r bobl a’r lleoedd a wasanaethwn.
Gyda Phrif Weithredwr cymharol newydd a dau Gyfarwyddwr newydd eu penodi i’r tîm arweinyddiaeth, rydym yn cefnogi ein twf a’n llwyddiant parhaus trwy benodi Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid newydd. Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol wrth lunio llwyddiant Barcud a bydd yn cyflwyno strategaethau ariannol arloesol ac yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.
Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig sydd â’r weledigaeth, yr arbenigedd a’r penderfyniad i’n helpu i gyflawni ein nodau a chynnal ein gwerthoedd o gydweithio, parch ac uniondeb.
Os ydych chi’n rhannu ein hangerdd dros greu bywydau gwell a chymunedau cryfach, rwy’n eich annog yn gynnes i wneud cais. Gyda’n gilydd, gallwn lunio dyfodol mwy disglair i’r bobl a’r lleoedd rydym yn eu gwasanaethu.
Cofion gorau,
Kate Curran – Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol
Cymdeithas Tai Barcud
Sut i Ymgeisio
Diolch yn fawr iawn am eich diddordeb yn y rôl yma gyda Barcud. Er mwyn gwneud cais, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- CV. Gwnewch yn siŵr bod hyn yn cadarnhau eich rolau presennol/diweddaraf (gallwch grynhoi rolau cynharach, dyweder cyn y 15 mlynedd diwethaf), dywedwch wrthym am eich cyflawniadau fel ein bod yn cael darlun o’ch sgiliau a’ch profiad, a cheisiwch ei gadw i ddwy dudalen neu dair ar y mwyaf;
- Datganiad personol. Rydym am glywed am eich cymhelliant, pam y rôl/sefydliad hwn, a byddwch hefyd am ddangos tystiolaeth o ba mor berthnasol yw eich cynnig i fanyleb y rôl; unwaith eto’n ddelfrydol mewn dwy i dair tudalen; a
- Y ffurflen ddatganiad, y gallwch ei chyrchu yma ac sy’n cynnwys lle i nodi os na allwch fynychu unrhyw un o’r cyfweliadau
Cyflwynwch eich dogfennau cais wedi’u cwblhau trwy eu llwytho trwy’r botymau ‘Gwneud cais am y rôl hon‘. Byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost ac yn gweld neges gadarnhau ar y sgrin ar ôl cyflwyno eich cais, ond os oes gennych unrhyw broblemau, gallwch ffonio 020 3434 0990.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Mawrth, 27 Mai 2025 (9yb). Gwnewch yn siŵr ein bod yn derbyn eich cais mewn da bryd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bost yn kelly.shaw@campbelltickell.com i drefnu amser wedi’i drefnu ymlaen llaw ar gyfer galwad.
Cofion cynnes,
Kelly Shaw – Uwch Ymgynghorydd Cyswllt – Campbell Tickell
Gwneud cais am swydd
Cwblhewch y ffurflen gais a datganiad yn gywir, gan roi’r holl fanylion gofynnol.
Telerau ac Amodau
Swyddi a thâl:
Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol – £92k y flwyddyn
Pecyn costau adleoli hyd at £6k
Gwyliau Blynyddol:
27 diwrnod o wyliau blynyddol + Â gwyliau bank a gwyliau Nadolig (3 diwrnod).
Oriau gwaith:
37 o oriau’r wythnos yw’r oriau gwaith arferol, wedi’u seilio o gwmpas yr wythnos waith fusnes arferol.
Bydd y swydd hon yn elwa ar oriau hyblyg a threfniadau gweithio TOIL.
Bydd gofyn bod yn bresennol mewn cyfarfodydd gyda’r nos o bryd i’w gilydd.
Cynllun Oriau Gwaith Hyblyg ar gael yn ogystal â model gwaith cymysg. Eto, bydd disgwyl presenoldeb yn y swyddfa.
Pensiwn:
Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol. Cyfraniad y cyflogwr hyd at 10%
Cyfnodau prawf a rhybudd:
6 mis o gyfnod prawf a 6 mis o rybudd
Lleoliad:
Bydd eich man gwaith arferol yn un o’r swyddfeydd canlynnol:
- Pencadlys Barcud, Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr PS, Ceredigion, SA48 7HH
Swyddfeydd Rhanbarthol Barcud, - TÅ· Canol, Ffordd Croesawdy, Y Drenewydd, Powys, SY16 1AL
- Glyn Padarn, Llanbadarn, Aberystwyth, Cerdigion SY23 3QU
Bydd patrwm gweithio cymysg yn berthnasol h.y. cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref
Dyddiadau Allweddol a’r Broses Ddethol
Dyddiad Cau: Dydd Mawrth, 27 Mai 2025 (9yb)
Cytunir ar y rhestr hir ddydd Gwener 30ain Mai 2025. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais ar ôl y cyfarfod rhestr hir.
Cyfweliadau Cyntaf: 5ed o Fehefin 2025
Cytinir ar y rhestr fer ar ddydd Llun 16eg o Fehefin 2025 a bydd pob ymgesidydd yn cael gwybod cyn gynted i’r cyfarfod orffen.
Cam Olaf
Bydd gofyn i bob ymgeisydd ar y rhestr fer baratoi cyflwyniad ar bwnc penodol, a fydd yn cael ei ddarparu cyn y cyfweliad.
Cynhelir cyfweliadau ddydd Mawrth 24ain o Fehefin 2025 yn Swyddfa Ranbarthol Barcud, Y Drenewydd, Powys, SY16 1AL.
Bydd y cyfweliadau’n cael eu harwain gan Jason Jones – Prif Weithredwr, Kate Curran – Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol a John Rees – Aelod o’r Bwrdd. Bydd Kelly Shaw o Campbell Tickell hefyd yn bresennol.
Â