Rhagair gan y Cadeirydd

Annwyl Ymgeisydd,

Rwyf wrth fy modd eich bod yn ystyried ymuno â Barcud ar adeg mor dyngedfennol yn ein taith. Wrth inni barhau i dyfu a datblygu, rydym yn chwilio am arweinwyr eithriadol i’n helpu i gymryd y cam nesaf ymlaen.

Mae Barcud yn gymdeithas dai flaengar â phresenoldeb cryf ar draws Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Rydym yn ymfalchïo mewn perchenogi a rheoli dros 4,000 o gartrefi a chefnogi cymunedau ffyniannus ag ystod o wasanaethau hanfodol. Mae ein tîm o fwy na 300 o gydweithwyr yn frwd, yn ymroddedig ac wedi ymrwymo i gyflawni rhagoriaeth bob un diwrnod.

Ers cychwyn ar fy nhaith gyda Barcud fel Caeirydd y Bwrdd yn Barcud ym mis Ebrill 2023, rwyf o hyd yn cael f’ysbrydoli gan y bywiogrwydd, yr uchelgais, a’r egni sy’n llifo drwy’r sefydliad hwn. Mae ein gweledigaeth yn glir ac yn gyrru popeth a wnawn – o ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i feithrin cymunedau bywiog, cydgysylltiedig a chyfleoedd gwaith cyffrous mewn rhai o ranbarthau mwyaf gwledig Cymru. Mae ein strategaeth wedi’i hadeiladu o amgylch arloesi, cydweithio, a chynaliadwyedd, a hynny’n sicrhau ein bod nid yn unig yn cwrdd â heriadau’r presennol ond hefyd yn creu dyfodol sy’n grymuso’r bobl a’r lleoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.

Wrth inni barhau i ehangu a gwthio ffiniau, rydym yn chwilio am bedwar o unigolion rhagorol i ymuno â’n Prif Swyddog Gweithredol newydd, Jason Jones, ar yr uwch dîm arweinyddol:

Cyfarwyddwr Grŵp Pobl a Mewnwelediadau: Byddwch chi’n gyrru newid trawsffurfiannol ar draws AD, TGCh, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Cyfranogiad Tenantiaid a Chyfathrebu, gan wreiddio prosesau penderfynu ar sail data a chan hyrwyddo diwylliant sy’n grymuso ein pobl yn ogystal â’r cymunedau a wasanaethwn.

Cyfarwyddwr Cymunedau: Gan arwain Gwasanaethau Rheoli Tai, Cefnogaeth i Denantiaid, Y Gymdeithas Gofal, a Gofal a Thrwsio ym Mhowys, byddwch chi’n siapio cymunedau bywiog, brwd ac yn creu effaith gymdeithasol ystyrlon.

Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol: Swydd allweddol mewn siapio llwyddiant Barcud, byddwch chi’n creu strategaethau ariannol arloesol i sicrhau cynaliadwyedd ac iechyd ariannol hirdymor a chyfleoedd am dwf.

Pennaeth Llywodraethiant: Gan gynorthwyo byrddau’r grŵp a’r isgwmnïau, byddwch chi’n sicrhau’r safonau uchaf o atebolrwydd a thryloywder, gan ein helpu i gwrdd â’n dyletswyddau cyfreithiol a rheoleiddiol.

Mae’r swyddi hyn yn cynnig cyfle dihafal i gael effaith wirioneddol a pharhaol o fewn corff sydd ag ymroddiad dwfn i wneud gwahaniaeth. Rydym yn chwilio am arweinwyr sy’n cynnig gweledigaeth, profiad ac ysbrydoliaeth ac sy’n rhannu ein heiddgarwch am gydweithio, parch, ac uniondeb. Os ydych chi’n rhywun a gymhellir gan y syniad o wneud gwahaniaeth a siapio dyfodol tai fforddiadwy, byddwn wrth fy modd petaech yn ymgeisio.

Gyda’n gilydd, gallwn lunio dyfodol disgleiriach i’r bobl a’r lleoedd a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Cofion gorau,

Alison Thorne
Cadeirydd y Bwrdd
Barcud

Sut i Ymgeisio

Diolch yn fawr iawn am eich diddordeb yn y rolau yng Nghymdeithas Tai Barcud. Er mwyn gwneud cais, bydd angen y canlynol arnom gennych chi:

Sicrhewch fod hwn yn cadarnhau eich rolau presennol/mwyaf diweddar (gallwch grynhoi rolau cynharach, dyweder cyn y 15 mlynedd diwethaf), dywedwch wrthym am eich cyflawniadau fel ein bod yn cael darlun o’ch sgiliau a’ch profiad, a cheisiwch ei gadw i ddwy dudalen neu dair ar y mwyaf;

Datganiad personol. Rydym am glywed am eich cymhelliant, pam y rôl/sefydliad hwn, a byddwch hefyd am ddangos pa mor berthnasol yw eich cynnig i fanyleb y rôl; eto yn ddelfrydol mewn dwy neu dair tudalen; a

Ffurflen Datganiad.  Gallwch ei lawrlwytho yma, ac sy’n cynnwys lle i nodi os na allwch fynychu unrhyw ran o’r cyfweliad

Cyflwynwch eich dogfennau cais wedi’u cwblhau trwy eu llwytho I trwy’r botymau ‘Gwneud cais am y rôl hon’. Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau ac yn gweld neges cadarnhau ar y sgrin ar ôl cyflwyno eich cais, ond os oes gennych unrhyw broblemau, gallwch ffonio 020 3434 0990.

Mae’r dyddiad cau ddydd Llun 17 Chwefror 2025 (9yb). Sicrhewch ein bod yn derbyn eich cais mewn da bryd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â mi trwy e-bost ar kelly.shaw@campbelltickell.com i drefnu amser ymlaen llaw ar gyfer galwad.

Cofion cynnes,

Kelly Shaw
Uwch Ymgynghorydd Cyswllt Campbell Tickell

kelly.shaw@campbelltickell.com

 

Gwneud cais am swydd

Cwblhewch y ffurflen gais a datganiad yn gywir, gan roi’r holl fanylion gofynnol.

Telerau ac Amodau

Swyddi a thâl:

Cyfarwyddwr Grŵp Pobl a Mewnwelediadau  – tua £110,000 y flwyddyn

Cyfarwyddwr Cymunedau – tua £110,000 y flwyddyn

Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol – tua £80,000 y flwyddyn

Pennaeth Llywodraethiant – tua £60,000 y flwyddyn

Gwyliau Blynyddol:

32 niwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a gwyliau Nadolig (3 diwrnod).

Oriau gwaith:

37 o oriau’r wythnos yw’r oriau gwaith arferol, wedi’u seilio o gwmpas yr wythnos waith fusnes arferol.

Bydd rolau’r Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol a Phennaeth Llywodraethu yn elwa ar oriau hyblyg a threfniadau gweithio TOIL. Ni fydd y trefniadau hyn, o ystyried hynafedd y rolau, yn berthnasol i’r 2 Swydd Gyfarwyddwr

Bydd gofyn bod yn bresennol mewn cyfarfodydd gyda’r nos o bryd i’w gilydd.

Cynllun Oriau Gwaith Hyblyg ar gael yn ogystal â model gwaith cymysg.  Eto, bydd disgwyl presenoldeb yn y swyddfa.

Pensiwn:

Beth yw’r cynllun a beth yw cyfraniadau’r cyflogwr a’r gweithiwr?

Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol.  Cyfraniad y cyflogwr hyd at 10%

Cyfnodau prawf a rhybudd:

6 mis o gyfnod prawf a 6 mis o rybudd

Lleoliad:

Prif Swyddfa Barcud fydd eich gweithle arferol, sef Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48, 7HH neu ein Swyddfa Ranbarthol, Barcud, Tŷ Canol, Ffordd Croesawdy, Y Drenewydd, Powys, SY16 1AL.

Bydd gweithio cymysg h.y. cyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref

Dyddiadau Allweddol a’r Broses Ddethol

Dyddiad Cau: Dydd Llun 17eg Chwefror 2025 (9yb).

Cytunir ar y rhestr hir ddydd Mercher 26ain Chwefror. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais ar ôl y cyfarfod rhestr hir.

Cyfweliadau Cyntaf:

Rolau cyfarwyddwr: Dydd Llun 3ydd neu ddydd Mawrth 4ydd Mawrth 2025.

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid: Dydd Llun 10fed Mawrth 2025.

Pennaeth Llywodraethu: Dydd Mawrth 11eg  Mawrth 2025.

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr hir yn cael eu cyfweld fwy neu lai gan ddefnyddio MS Teams gan banel Campbell Tickell.

Cytunir ar y rhestr fer ar fore dydd Mercher 12fed Mawrth (Cyfarwyddwyr) a dydd Mawrth 18fed Mawrth (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid a Phennaeth Llywodraethu). Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais y diwrnod canlynol ar ôl y cyfarfod rhestr fer.

Cam Olaf

Profi: Gofynnir i bob ymgeisydd ar y rhestr fer ar gyfer rolau Cyfarwyddwr gwblhau prawf seicometrig ar-lein i archwilio arddull arwain ac efallai y bydd ymarfer o bell ar-lein ar gyfer pob rôl a fydd yn cael ei gadarnhau yn nes at yr amser.

Cyfweliadau Cyfarwyddwyr: Cynhelir Cyfweliadau Cyfarwyddwr naill ai ddydd Mercher 19eg neu ddydd Iau 20fed Mawrth 2025 yn Swyddfa Barcud. Arweinir y cyfweliadau gan Jason Jones (Prif Weithredwr Barcud), Aelodau eraill y panel i’w cadarnhau. Bydd Kelly Shaw o Campbell Tickell hefyd yn bresennol.

Sesiwn Rhanddeiliaid – Bydd cyfle hefyd ar yr un diwrnod â’r cyfweliad terfynol i gwrdd ag amrywiaeth o randdeiliaid. Bydd manylion y mynychwyr yn cael eu cadarnhau yn nes at yr amser.

Cyfweliadau Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid a Phennaeth Llywodraethu:  Cynhelir cyfweliadau naill ai ddydd Mawrth 25ain neu ddydd Mercher 26ain Mawrth yn Swyddfa Barcud Arweinir y cyfweliadau gan Jason Jones (Prif Weithredwr Barcud), Aelodau eraill y panel i’w cadarnhau. Bydd Kelly Shaw o Campbell Tickell hefyd yn bresennol.